Canghellor y Trysorlys, George Osborne (llun: PA)
Yn dilyn  y cyhoeddiad ddoe fod ‘bil’ £1.7 biliwn yr Undeb Ewropeaidd i Brydain wedi cael ei haneru i £850 miliwn, mae dadleuon ynghylch union natur y fargen.

Er bod y Canghellor George Osborne yn honni bod haneru’r bil yn fuddugoliaeth fawr i Brydain, mae eraill ym dadlau nad oes dim wedi newid, gan y byddai Prydain wedi cael yr ad-daliad o £850 miliwn y flwyddyn nesaf prun bynnag.

Dywedodd Kristalina Georgieva, is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd gyda chyfrifoldeb am y gyllideb, fod y cyfraniad ychwanegol sy’n ddyledus gan Brydain yn golygu y byddai cynnydd yn yr ad-daliad hefyd, sy’n golygu lleihad yn y cyfanswm dyledus.

Yn ôl gweinidog cyllid Iwerddon, Michael Noonan, bydd Prydain “yn talu’r swm llawn”, a dywedodd gweinidog cyllid yr Iseldiroedd, Jeroen Dijsselbloem, “nad yw’r Prydeinwyr wedi cael disgownt”.

Mae gwrthwynebwyr gwleidyddol y Canghellor yn wfftio at ei honiadau o fuddugoliaeth.

“Nid yw David Cameron na George Osborne wedi arbed ceiniog i drethdalwyr Prydain,” meddai Canghellor yr Wrthblaid, Ed Balls. “Trwy gyfrif yr ad-daliad y byddai Prydain wedi’i gael p’run bynnag, maen nhw’n ceisio honni bod y bil wedi cael ei haneru a thrin pobl Prydain fel ffyliaid.”

Yr un oedd neges arweinydd Ukip, Nigel Farage: “Mae Prydain yn dal i dalu’r £1.7 biliwn llawn. Nid yw benthyg yr hyn sy’n ddyledus inni yn y dyfodol i dalu bil annheg yn fuddugoliaeth. Twyll yw hyn.”