Mae’r Canghellor George Osborne wedi dweud y bydd Llywodraeth Prydain yn talu £850 miliwn o’r £1.7biliwn yr oedd yr Undeb Ewropeaidd wedi gofyn amdano.
Bydd yr arian yn cael ei dalu mewn dwy ran, a hynny ar ôl etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf.
Roedd Osborne wedi dweud ar Twitter fod y gost wreiddiol yn “annerbyniol”.
Yn gynharach roedd David Cameron wedi gwneud ffỳs mawr o wrthod talu’r arian, oedd yn ddyledus yn ôl yr Undeb Ewropeaidd am fod economi Prydain wedi gwneud yn well na gwledydd eraill yr Undeb.