Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhybuddio bod “mannau gwan cyfreithiol” yn y Safonau Iaith newydd y mae Llywodraeth Cymru’n gobeithio eu cyflwyno’r flwyddyn nesaf.
Yn ôl yr ymgyrchwyr iaith, nid yw’r cynlluniau yn esbonio pa ofynion fydd yn cael eu gosod o ran darparu gwasanaethau yn y Gymraeg pan mae’r gwasanaethau hynny’n cael eu contractio allan.
Maen nhw hefyd yn bryderus nad yw’r safonau newydd yn mynd i gael digon o effaith o ran annog pobl ar lawr gwlad i ddefnyddio’r Gymraeg.
Heddiw fe gyhoeddodd y Prif Weinidog Carwyn Jones gyfnod ymgynghoriad o bedair wythnos ar gyfer Safonau’r Gymraeg, ac maen nhw’n bwriadu cyflwyno’r set gyntaf gerbron y Cynulliad ym mis Mawrth 2015.
Pryder am gontractwyr
Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud eu bod wedi bod yn trafod gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ers misoedd er mwyn ceisio sicrhau y bydd y Safonau – sydd yn ddyletswyddau iaith newydd ar gyrff o dan Fesur y Gymraeg 2011 – yn sicrhau hawliau clir a gwasanaethau Cymraeg i bobl Cymru.
Ond mae ganddyn nhw rai pryderon cyfreithiol ynglŷn â sut y bydd y Safonau’n effeithio ar gwmnïau allanol sydd yn ennill cytundebau i ddarparu gwasanaethau ar ran cyrff cyhoeddus.
“O edrych ar y Safonau drafft, mae’n ymddangos bod y Llywodraeth wedi gwrando ar rai o’n pryderon, a rhaid croesawu hynny,” meddai Manon Elin, llefarydd hawliau’r mudiad iaith.
“Ond mae rhai materion sy’n peri pryder cyfreithiol i ni yn arbennig wrth ystyried gwasanaethau sydd wedi’u contractio allan a’u cynnig drwy grant.
“Mae cyrff cyhoeddus yn mynd drwy gyfnod o newid sylfaenol ar hyn o bryd o ran sut maen nhw’n darparu gwasanaethau, gan gynnwys llawer mwy o gydweithio a chynnig gwasanaethau drwy gwmnïau a chyrff eraill.
“Byddai’n anffodus iawn petai’r Llywodraeth yn creu trefn newydd o ddyletswyddau iaith sy’n methu cwmpasu gwasanaethau o’r fath.”
Llawr gwlad
Ychwanegodd Manon Elin fod Cymdeithas yr Iaith hefyd yn poeni na fydd Safonau’r Gymraeg yn mynd yn ddigon pell er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn gweithio drwy gyfrwng yr iaith.
“Mater arall sy’n peri pryder yw gwendid y Safonau ynghylch defnydd mewnol o’r Gymraeg mewn sefydliadau,” meddai Manon Elin.
“Mae rhai Safonau yn gam yn y cyfeiriad cywir ond er mwyn newid sefyllfa’r iaith ar lawr gwlad, mae angen Safonau llawer mwy cadarn ar ddefnydd mewnol – gwneud y Gymraeg yn sgil hanfodol mewn cyfran o swyddi, sicrhau bod yr iaith yn cael ei defnyddio yn y gwaith bob dydd, a rhoi hyfforddiant dwys i bobl ddysgu’r Gymraeg yn rhugl yn y gweithle.”
Ychwanegodd Jamie Bevan, cadeirydd y mudiad, y bydd Llywodraeth Cymru’n cyfarfod ag aelodau Cymdeithas yr Iaith ddydd Llun i drafod y Safonau Iaith ymhellach.