Seremoni agoriadol Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow
Fe fydd yr arian dros ben yn dilyn Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow eleni yn cael ei wario ar y Gwasanaeth Iechyd, yn ôl y Prif Weinidog Alex Salmond.
Cafodd cyllideb o £575 miliwn ei gosod ar gyfer y digwyddiad, gyda £23.8 miliwn wedi’i neilltuo fel arian wrth gefn rhag ofn y byddai costau’n uwch na’r disgwyl.
Daeth £372 miliwn o’r arian hwnnw o’r pwrs cyhoeddus a’r gweddill yn sgil nawdd, nwyddau, tocynnau a hawliau darlledu.
Ond fe fydd y gost derfynol – fydd yn cael ei chyhoeddi’r flwyddyn nesaf – £25 miliwn yn llai na’r disgwyl.
‘Gemau gorau erioed’
Cafodd y mater ei drafod yn Sesiwn Holi’r Prif Weinidog yn Senedd yr Alban heddiw, wrth i Alex Salmond ganmol gwaddol y Gemau.
Dywedodd: “Roedd y Gemau yn yr Alban yn llwyddiant ysgubol yn nhermau’r trefnu a’r ffordd y gwnaethon nhw gydio yn nychymyg cannoedd o filoedd o bobol wrth iddyn nhw fwynhau’r digwyddiad mwyaf erioed yn hanes yr Alban.”
Ychwanegodd fod y newyddion bod llai na’r disgwyl wedi cael ei wario ar y digwyddiad a’r ffaith y cafodd y Gemau eu galw’r “Gemau gorau erioed” yn golygu bod yr Alban wedi cynnal digwyddiad unigryw.
Bydd yr Alban yn buddsoddi £6 miliwn mewn canolfan ar gyfer para-chwaraeon, gyda £2 miliwn yn cael ei wario ar raglen waddol y Gemau.
Ychwanegodd Alex Salmond fod y buddsoddiad yn y Gwasanaeth Iechyd yn golygu y bydd “y manteision i’w teimlo yn yr Alban am genedlaethau i ddod”.