Mae dyn 44 oed wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Birmingham, wedi’i gyhuddo o gyhoeddi dolen ar wefan Twitter a fyddai’n galluogi defnyddwyr y wefan gymdeithasol i hacio gwefan y Swyddfa Gartref.
Mae Mark Johnson o Stoke-on-Trent yn gwadu ei fod e wedi gweld y neges ac mae’n honni nad yw’n gwybod sut cafodd y ddolen ei chyhoeddi ar ei dudalen Twitter.
Mae’n gwadu un cyhuddiad o annog neu gynorthwyo ymosodiad gyda’r bwriad o atal gwasanaeth rhag gweithio.
Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud â’r wefan gyfan a thudalen etholaeth bersonol yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May.
Clywodd y llys fod y ddolen yn rhan o ymgyrch ehangach gan y grŵp Anonymous.
Ond dywedodd Johnson wrth y llys fod ei sgiliau cyfrifiadurol yn gyfyng iawn ac nad oedd yn gwybod llawer am y grŵp Anonymous na’r dudalen oedd yn protestio yn erbyn Theresa May.
Yn dilyn ymgyrch Anonymous ym mis Mehefin 2012, bu’n rhaid i’r Swyddfa Gartref ddefnyddio rhaglen er mwyn adfer y wefan i barhau â’u gwaith.
Mae’r achos yn parhau.