Mae nifer y bobol sy’n cael eu lladd ar y ffyrdd ym Mhrydain yn cynyddu, yn ôl adroddiad gan yr Adran Drafnidiaeth.

Roedd nifer y marwolaethau o fis Ebrill i fis Mehefin 9% yn uwch na’r un cyfnod y llynedd ac roedd nifer y bobol fu farw yn y 12 mis cyn mis Mehefin 3% yn uwch – gan godi o 1,713 i 1,760.

Yn ogystal, mae nifer y bobol gafodd fan anafiadau mewn damweiniau ffyrdd o fis Ebrill-Mehefin wedi codi 9% i 41,740, gyda’r ffigwr llawn o bobol gafodd anaf neu eu lladd wedi codi 9% i 48,020.

Seiclwyr

Roedd cynnydd sylweddol (18%) yn nifer y seiclwyr gafodd eu hanafu’n ddifrifol neu eu lladd a chynnydd yn nifer y beicwyr modur (9%) fu farw.

Awgrymodd yr Adran Drafnidiaeth mai’r tywydd cynnes oedd ar fai am y ffigyrau hyn, gyda mwy yn mynd allan ar eu beiciau yn ystod gwanwyn 2014.

Er y cynnydd ym marwolaethau seiclwyr, cafodd1% yn llai o gerddwyr eu lladd – sef yr unig grŵp i weld gostyngiad ers 2013.

Wrth drafod y ffigyrau, dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Robert Goodwill: “Mae unrhyw farwolaeth ar y ffordd yn drasiedi ac mae gwella diogelwch yn flaenoriaeth i’r llywodraeth hwn.

“Rydym yn benderfynol o wneud mwy i leihau’r ffigyrau hyn, gan weithio gyda’r heddlu ac asiantaethau eraill trwy ein hymgyrch THINK!”.