Jimmy Savile
Mae cyfanswm o 12 ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Iechyd (GIG) wedi cael eu cysylltu ynglŷn ag ymchwiliadau o’r newydd i honiadau o gam-drin rhywiol gan Jimmy Savile ar eu safleoedd, meddai’r Adran Iechyd.

Mae’r uned sy’n goruchwylio ymchwiliadau’r GIG i honiadau o gam-drin gan Savile ar eu safleoedd, wedi cyfeirio gwybodaeth gan ddioddefwyr at yr Heddlu Metropolitan a’r ymddiriedolaethau.

Mae’r ymddiriedolaethau yn cynrychioli naw ysbyty a gwasanaethau iechyd sydd heb fod yn rhan o’r ymchwiliadau cynharach.

Mae’r honiadau newydd wedi dod i’r amlwg ers cyhoeddi 28 adroddiad i weithgareddau Savile ar safleoedd y GIG ym mis Mehefin, meddai’r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt mewn datganiad ysgrifenedig.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd bod adroddiadau eraill, gan gynnwys ymchwiliad i Ysbyty Stoke Mandeville yn Sir Buckingham, wedi cael eu gohirio tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn ar gais erlynwyr.