Mae rheolwr pwll glo yn Seland Newydd lle bu farw 29 o lowyr bedair blynedd yn ôl wedi dweud ei bod hi’n rhy beryglus o hyd i geisio symud eu cyrff.

Cafodd y gweithwyr yn River Pike ar Ynys y De eu lladd yn 2010 yn dilyn ffrwydrad methan y tu fewn i’r pwll.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Solid Energy Board nad oedden nhw wedi gallu dyfeisio cynllun i gael mynediad diogel i’r safle.

Maen nhw’n rhybuddio y gallai rhagor o bobol farw pe baen nhw’n ceisio mynd i mewn i’r safle ar hyn o bryd.

Yn ôl arbenigwyr, gallai to’r pwll ddymchwel yn sgil difrod tân a nwy sydd wedi bod yn gollwng dros gyfnod hir o amser.

Ond mae teuluoedd y rhai fu farw yn dweud bod ganddyn nhw dystiolaeth sy’n gwrthbrofi barn yr arbenigwyr.

Yn dilyn penderfyniad Solid Energy i ddiddymu ei drwydded ar gyfer safle Pike River, bydd y pwll yn cael ei drosglwyddo i reolaeth llywodraeth Seland Newydd.

Mae’r teuluoedd bellach yn awyddus i weld y safle’n cael ei droi’n gofeb i’r gweithwyr ac yn safle ar gyfer hyfforddi iechyd a diogelwch.

Yn dilyn ymchwiliad o’r digwyddiad, penderfynodd y llywodraeth fod y cwmni wedi anwybyddu 21 o rybuddion am ddiogelwch.

Cafwyd y cwmni’n euog yn ddiweddarach o dorri rheolau iechyd a diogelwch, ond ni chafodd achos ei ddwyn yn erbyn rheolwr y pwll.