Pont Briwet
Mae’r gwaith o ddymchwel Pont Briwet yn ardal Penrhyndeudraeth wedi dechrau.

Mae disgwyl i’r gwaith o ddymchwel y bont 150 mlwydd oed bara hyd at bedair wythnos, ac ni fydd y gwaith o godi pont newydd yn dechrau tan i’r hen bont gael ei ddymchwel yn llwyr.

Mae trigolion lleol wedi bod yn protestio ynghylch yr oedi yn ddiweddar.

Dywedodd Cyngor Gwynedd fis diwethaf y gallai modurwyr ddisgwyl cryn oedi wrth symud tros aber afon Dwyryd o Benrhyndeudraeth i gyfeiriad Harlech.

Gallai’r bont newydd agor erbyn mis Mehefin y flwyddyn nesaf, er gwaetha’r cyhoeddiad gwreiddiol y byddai’n barod i’w ddefnyddio erbyn mis Chwefror.