Mae undeb Unsain wedi penderfynu gohirio streic ymhlith gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd yr wythnos nesaf, er mwyn trafod cynigion newydd gan Lywodraeth Cymru gyda’r aelodau.

Roed disgwyl i filoedd o weithwyr iechyd gerdded allan o’u gwaith am hanner diwrnod ddydd Llun, 10 Tachwedd ac yna i gynnal cyfres o streiciau byrion tan ddydd Gwener, 14 Tachwedd.

Roedd yr undeb yn adweithio i benderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod rhoi codiad cyflog o 1% i’r gweithwyr, er gwaetha’ argymhellion Adolygiad Tâl y Gwasanaeth Iechyd.

Ond mae cynigion newydd wedi cael eu cyflwyno gan y Llywodraeth, yn ôl yr undeb:

“Mae’r cynigion yn welliant sylweddol i’n haelodau ac yn ganlyniad o wythnosau o drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru,” meddai Pennaeth Iechyd Unsain, Dawn Bowden.

“Mae aelodau’r GIG yn haeddu cael dweud eu dweud ac mi fyddwn ni’n cynnal trafodaethau a nhw ynglŷn â’r cynigion newydd.”