Ray Teret
Mae llys wedi clywed bod cyn-gyflwynydd radio sydd wedi’i gyhuddo o droseddau rhyw hanesyddol wedi cael ei ganfod yn euog yn 1999 o gael rhyw â merch ifanc.
Mae Ray Teret yn wynebu cyhuddiadau newydd o dreisio dynes gyda Jimmy Savile ac o gam-drin hyd at 17 o fenywod yn rhywiol rhwng y 1960au a’r 1990au.
Mae un o’r menywod yn honni bod Teret wedi’i threisio pan oedd hi’n 15 oed, bron yn syth wedi iddi gael ei threisio gan Savile mewn fflat.
Mae Teret – cyn-gyflwynydd ar orsaf Radio Caroline – yn gwadu 18 cyhuddiad o dreisio, dau gyhuddiad o ymosodiadau rhywiol difrifol, un cyhuddiad o geisio treisio, 11 cyhuddiad o ymosod yn anweddus a dau gyhuddiad o ymddygiad anweddus gyda phlentyn.
Cyn iddo roi tystiolaeth, clywodd Llys y Goron Manceinion fod Teret wedi’i ganfod yn euog yn y gorffennol o gael rhyw â merch dan 16 oed.
Roedd wedi pledio’n ddieuog.
Clywodd y llys fod Teret wedi cwrdd â Savile mewn neuadd ddawns yn y 1950au, a’i fod wedi cael cynnig gwaith ganddo.
Mae dau ddyn arall yn sefyll eu prawf.
Mae Alan Ledger, 62 oed, sy’n gwadu cyhuddiad o ymosod yn rhywiol ac un cyhuddiad o ymddwyn yn anweddus gyda phlentyn, ac mae William Harper, 65 oed, yn gwadu un cyhuddiad o geisio treisio.
Mae’r achos yn parhau.