Mark James
Mae Cyngor Sir Gâr wedi gwrthod gwneud sylw ynghylch deiseb sy’n galw arnyn nhw i beidio rhoi tâl diswyddo i’r Prif Weithredwr Mark James.
Daeth cadarnhad ddiwedd mis Medi bod Mark James wedi cyflwyno cais i gymryd diswyddiad gwirfoddol.
Mae’n derbyn cyflog o £168,000 y flwyddyn, ac mae disgwyl iddo dderbyn tâl diswyddo chwe ffigwr fel rhan o’i becyn ymadawiad.
Ymchwiliad
Cafodd ymchwiliad ei gynnal gan Heddlu Swydd Gaerloyw yn gynharach eleni ar sail adroddiad damniol gan Swyddfa Archwilio Cymru oedd yn dweud bod uwch-swyddogion cynghorau Sir Gâr a Sir Benfro wedi derbyn taliadau anghyfreithlon.
Penderfynodd y cyngor roi taliad i Mark James yn hytrach na chyfraniadau pensiwn, a hynny am resymau treth.
Camodd Mark James o’r neilltu yn ystod ymchwiliad yr heddlu, ond daeth yr heddlu i’r casgliad nad oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod troseddau wedi cael eu cyflawni.
Deiseb
Erbyn hyn, mae bron i 500 o bobol wedi llofnodi’r ddeiseb, sydd wedi cael ei chyflwyno gan un o drigolion Llanwrda, Lyndsey Maiden, yn dweud na ddylai Mark James dderbyn y tâl diswyddo.
Dywedodd wrth Golwg: “Fel trethdalwr fy hun does gen i ddim gwrthwynebiad talu am wasanaethau – dw i o blaid talu trethi ond mae meddwl am roi arian diswyddo i chwyddo cyflog Prif Weithredwr pan mae pobol eraill yn crafu byw ar gyflogau bach, yn troi arna’ i.
“Byddai £120,000 yn achub fy ysgol leol rhag cau ond bydd yr arian yna’n cael ei roi i un gwas sifil!”
Ymateb y Cyngor
Wrth ymateb, dywedodd Cyngor Sir Gâr nad ydyn nhw’n fodlon gwneud sylw ar hyn o bryd.
“Dydyn ni ddim yn gwneud unrhyw sylw ynghylch y ddeiseb gan y bydd y cais am ddiswyddiad yn cael ei drafod a’i benderfynu gan aelodau’r Cyngor llawn, ac ni allwn ni ddarogan y drafodaeth honno.”
Bydd y Cyngor llawn yn trafod y mater ar 12 Tachwedd.