Jimmy Savile
Mae barnwr sy’n penderfynu a ddylai unigolion sydd wedi gwneud honiadau am gael eu cam-drin gan Jimmy Savile dderbyn iawndal, wedi dweud bod nifer sylweddol o’r achosion yn rhai dilys.
Mae cyfreithwyr sy’n cynrychioli Ymddiriedolaeth Elusennol Jimmy Savile yn honni bod rhai menywod wedi gwneud ceisiadau twyllodrus am iawndal.
Maen nhw’n dadlau nad yw’r cynllun iawndal yn asesu dilysrwydd y ceisiadau.
Ond mae’r Arglwydd Ustus Patten – un o’r tri barnwr yn y Llys Apêl – wedi dweud wrth y gwrandawiad fod y ceisiadau’n ddilys ar y cyfan.
Mae mwy na 200 o bobol wedi gwneud ceisiadau am iawndal.
Cafodd y cynllun iawndal ei gyflwyno yn dilyn gwrandawiad blaenorol yn yr Uchel Lys ym mis Chwefror.
Penderfynodd y barnwr na ddylid disodli banc NatWest fel yr ysgutor.
Clywodd y gwrandawiad fod cyfanswm yr iawndal yn amrywio yn ôl pa mor ddifrifol oedd yr achosion o gam-drin.
Dywedodd y barnwr fod y cynllun iawndal yn ateb “synhwyrol a phragmataidd” i “sefyllfa gymhleth”.
Mae arbenigwyr yn amcangyfrif fod Savile werth hyd at £4 miliwn ond mae’r ffigwr wedi gostwng i oddeutu £3.3 miliwn erbyn hyn.