Carwyn Jones yn y Cae Coffa yng Nghastell Caerdydd
Roedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones a’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews yn bresennol mewn seremoni arbennig y bore ma i agor Cae Coffa ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghastell Caerdydd.

Cafwyd dwy funud o dawelwch am 11 o’r gloch.

Cafodd teyrnged i filwr fu farw ei gosod gan Carwyn Jones.

Yn ystod y seremoni, dywedodd Carwyn Jones: “Rwy’n falch o gael mynychu’r digwyddiad hwn i dalu teyrnged i’r sawl sydd wedi marw mewn brwydrau.

“Mae arnon ni ddyled fawr i’n Lluoedd Arfog a’n cyn-filwyr.

“Eleni, wrth i ni nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, mae cyfle hyd yn oed yn fwy i ni gofio’r sawl a gymerodd ran yn y Rhyfel, a’r effaith mae brwydrau’n ei chael ar ddatblygiad y Gymru gyfoes.”

Ychwanegodd Leighton Andrews fod y Cae Coffa’n “gydnabyddiaeth weladwy drawiadol o’u haberth a’n gwerthfawrogiad ni o’u haberth”.

Ychwanegodd Cadeirydd y Llengfilwyr Prydeinig, John Crisford fod y Cae Coffa’n arwydd o’r parch sydd i filwyr sydd wedi colli eu bywydau.

“Mae’r ystod o deyrngedau yn y Cae hwn, o’r rhai sy’n coffáu meirw’r Rhyfel Byd Cyntaf i’r aberthau mwy diweddar, yn gofeb i’r rhai fu farw ac mae’n dangos gwerthfawrogiad y cyhoedd o aelodau’r Lluoedd Arfog Prydeinig sydd wedi gwneud yr aberth fwyaf wrth amddiffyn ein gwlad.”