David Cameron
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi mynegi ei siom fod cwmni Klesch o’r Swistir wedi tynnu allan o gytundeb i brynu purfa olew Aberdaugleddau.

Dywedodd fod y penderfyniad yn “siomedig”, ond rhybuddiodd na ddylid cefnu ar gysylltiadau â chwmni Klesch, sydd wrthi’n prynu rhannau o gwmni dur Tata Steel.

Mynegodd yr Aelod Seneddol Llafur, Tom Greatrex bryder am gwmni Klesch yn dilyn y newyddion.

Wrth ymateb i’r pryderon, dywedodd David Cameron y byddai’r ymdrechion i helpu’r gweithwyr i ddod o hyd i swyddi newydd yn parhau.

“Yn nhermau Tata Steel, mae Clydebridge yn cyflogi oddeutu 90 o bobol, mae’n rhan hanfodol o’r adran cynnyrch hir fel y gwyddoch chi.

“Fe gymeron ni gamau yn y Gyllideb i gefnogi diwydiant trwm ac rydyn ni’n cydweithio â Grŵp Klesch a Llywodraeth yr Alban.”

Mynegodd Tom Greatrex bryder fod posibilrwydd y gallai’r diwydiant dur cyfan ym Mhrydain fynd i ddwylo Klesch yn y dyfodol.

Gofynnodd yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog: “Gyda’u record o dorri asedau yn Ffrainc a’r Iseldiroedd a’r newyddion dros nos am eu methiant i brynu Aberdaugleddau, ydych chi’n credu ei bod er lles y cyhoedd a’r genedl fod sylfeini strategol pwysig diwydiant dur y DU yn cael eu gwerthu i Grŵp Klesch?”