Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i farwolaeth dyn 20 oed mewn parc sglefrio yng Nghroesoswallt wedi rhyddhau dyn 38 oed ar fechnïaeth.
Cafodd ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad Matthew Jones ar Dachwedd 1.
Cafodd Matthew Jones ei gludo i’r ysbyty yn Amwythig, lle bu farw’n ddiweddarach.
Roedd y dyn 38 oed hefyd wedi’i arestio ar amheuaeth o ddosbarthu cyffuriau dosbarth A.
Mae disgwyl i brofion post-mortem gael eu cynnal yr wythnos hon, ac mae marwolaeth Matthew Jones yn cael ei drin fel un amheus.
Mae Heddlu Sir Amwythig wedi apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd yn y digwyddiad yn y parc sglefrio ar Ystâd Ddiwydiannol Rednal nos Wener diwethaf.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101, neu ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.