Y ganolfan feddygol i drin cleifion Ebola yn Sierra Leone
Mae rhai cleifion Ebola yn Sierra Leone wedi dechrau cael eu trin mewn canolfan a adeiladwyd gan filwyr Prydeinig mewn wyth wythnos.

Bydd modd trin hyd at 80 o gleifion unwaith y bydd canolfan Kerry Town y tu allan i’r brifddinas Freetown, a ariannwyd gan Lywodraeth Prydain, wedi’i gwblhau.

Hon yw un o chwe chanolfan newydd fydd yn delio â’r nifer gynyddol o gleifion Ebola yn y wlad, ac yn cael ei redeg gan fudiad Achub y Plant.

Mae’r ganolfan newydd hefyd yn cynnwys safle 12 gwely wedi’i redeg gan staff meddygol lluoedd arfog Prydain sydd yno i drin gweithwyr iechyd rhyngwladol.

Yn ôl ffigyrau Sefydliad Iechyd y Byd mae gwir angen mwy o wlâu mewn canolfannau meddygol yn y wlad, gan eu bod nhw’n amcangyfrif mai dim ond 326 sydd i’w gael yn Sierra Leone gyfan.

‘Ras yn erbyn amser’

Dywedodd Gweinidog y Lluoedd Arfog Mark Francois ei fod yn hynod o falch fod y milwyr wedi llwyddo i adeiladu’r ganolfan gyntaf mor gyflym.

Ac fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol, Justine Greening, fod wir angen y gwlâu ychwanegol er mwyn taclo problem Ebola yn y wlad.

“Fe fydd y ganolfan driniaeth yma, y cyntaf o chwech wedi’i hadeiladu gan Brydain, yn rhoi’r gofal sydd ei angen ar gleifion i ymladd Ebola, ac atal yr afiechyd hwn rhag lledaenu,” meddai Greening.

Fe fydd 700 o wlâu ar gael unwaith y bydd Prydain wedi gorffen adeiladu’r chwe chanolfan iechyd, fyddai’n galluogi 8,000 o gleifion i gael eu trin bob mis.

Mae Achub y Plant hefyd yn recriwtio 200 o staff meddygol ychwanegol yn ogystal â staff cynorthwyol er mwyn delio â’r broblem.

“Mae’n rhaid i ni ddyblu’n hymdrech os ydyn ni am daclo’r argyfwng yma,” meddai prif weithredwr y mudiad, Justin Forsyth. “Rydyn ni mewn ras fyw neu farw yn erbyn amser.”