Llys y Goron Abertawe
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cyhoeddi na fydd rhieni bachgen wyth oed o Sir Benfro, yr honnir iddo farw o’r sgyrfi, bellach yn wynebu camau troseddol.

Roedd Julie Seabridge, 46, a’i gwr Glynn, 47, yn wynebu achos llys yn ymwneud ag esgeuluso plentyn yn dilyn marwolaeth eu mab Dylan yn 2011.

Ond fe glywodd Llys y Goron Abertawe heddiw bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi penderfynu gollwng yr achos yn erbyn y cwpl yn dilyn “adolygiad manwl”.

Dywedodd yr erlynydd Iwan Jenkins nad oedd Julie Seabridge yn ddigon iach i sefyll ei phrawf ac “nad oedd er budd y cyhoedd” i ddwyn achos yn erbyn Glynn Seabridge.

Er bod yr achos troseddol bellach wedi dod i ben, nid yw ymchwiliad y crwner i farwolaeth Dylan wedi cael ei gynnal hyd yn hyn.

Cafodd cwest i’w farwolaeth ei agor a’i ohirio tair blynedd yn ôl.

Mae disgwyl i’r ymchwiliad gyhoeddi beth achosodd ei farwolaeth yn ogystal â’r digwyddiadau a arweiniodd at ei farwolaeth.

Mae’r sgyrfi yn gysylltiedig â diffyg mewn fitamin C ac mae achosion o’r cyflwr yn y DU yn brin.