Jimmy Savile
Mae rhai menywod yn debygol o wneud honiadau twyllodrus am gael eu cam-drin yn rhywiol gan Jimmy Savile, clywodd barnwyr yn y Llys Apêl heddiw.

Dywedodd ymddiriedolwyr elusen Jimmy Savile wrth y llys fod rhaid iddyn nhw graffu ar bob cais am iawndal.

Fe ddywedon nhw hefyd fod ganddyn nhw bryderon am gynllun iawndal y cytunwyd arno rhwng ysgutor ystâd Savile,
banc NatWest a chyfreithwyr sy’n cynrychioli dioddefwyr honedig.

Yn gynharach eleni, fe wnaeth barnwr yn yr Uchel Lys gymeradwyo cynllun iawndal a sefydlwyd i ddioddefwyr Jimmy Savile, er gwaethaf gwrthwynebiad gan y Jimmy Savile Charitable Trust.

Nawr, mae’r elusen am i’r Llys Apêl wyrdroi penderfyniadau’r barnwr hwnnw.

Mae disgwyl i’r gwrandawiad ddod i ben yfory.