Jenny Willott AS
Jenny Willott, yr AS dros Ganol Caerdydd, yw’r Aelod Seneddol diweddaraf o’r Democratiaid Rhyddfrydol i gyhoeddi ei bod yn ymddiswyddo.

Cyhoeddodd yr AS na fydd hi’n parhau yn ei swydd fel chwip cynorthwyol y Llywodraeth er mwyn canolbwyntio ar ei hetholaeth.

Daw’r cyhoeddiad wedi i Norman Barker AS ymddiswyddo fel Gweinidog yn y Swyddfa Gartref neithiwr gan ddweud fod gweithio i’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May yn “waith caled”.

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi cyhoeddi mai Lynne Featherstone fydd yn cymryd ei le yn y Swyddfa Gartref.

Mae Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, wedi trydar i ddweud ei fod yn drist o glywed fod Jenny Willott yn ymddiswyddo:

“Roedd hi’n weinidog a chwip effeithiol. Fe wnes i fwynhau gweithio gyda hi,” meddai.

Yn ogystal ag ymddiswyddiad Jenny Willott a Norman Barker, mae AS Cheadle, Mark Hunter, hefyd wedi cyhoeddi ei fod yn gadael ei swydd fel dirprwy brif chwip y Llywodraeth Glymblaid.

Dywedodd Nick Clegg ei fod yn parchu penderfyniad y tri AS i ymddiswyddo er mwyn canolbwyntio ar ymgyrchu yn eu hetholaethau.

‘Cyfaddefiad cywilyddus’

Yn dilyn ymddiswyddiad Jenny Willott, dywedodd ymgeisydd Llafur Canol Caerdydd, Jo Stevens ei bod wedi “anwybyddu ei hetholaeth” yn ystod ei chyfnod fel chwip:

“Fe fydd pleidleiswyr yng Nghanol Caerdydd yn gweld drwy’r ymddiswyddiad hwn, ac yn ei weld fel cyfaddefiad cywilyddus bod Jenny Willott wedi anwybyddu ei hetholaeth.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ymddwyn yn sarhaus iawn os ydyn nhw’n meddwl y bydd pobol yn anghofio eu bod wedi gosod y Dreth Ystafell Wely, wedi rhoi toriad treth gwerth £100,000 i filiwnyddion ac wedi treblu ffioedd dysgu.”