Mae dyn 26 oed wedi cael ei arestio yng Nghernyw ar amheuaeth o frawychiaeth sy’n gysylltiedig â Syria, meddai’r heddlu.

Cafodd y dyn o Fangladesh ei arestio yn nhre Hayle neithiwr gan swyddogion o’r Uned Wrth-Frawychiaeth yn y de ddwyrain (Sectu) a Heddlu Dyfnaint a Chernyw.

Mae’n cael ei holi gan yr heddlu ar amheuaeth o baratoi ar gyfer gweithred brawychol.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu ei fod yn ymwneud a’r “gwrthdaro yn Syria” ac nad oedd unrhyw fygythiad i gymunedau lleol neu rannau eraill o’r DU.