Syr Dave Brailsford
Bydd Syr Dave Brailsford, yr hyfforddwr seiclo profiadol sydd a’i wreiddiau yn Neiniolen, yn agor canolfan chwaraeon Prifysgol Bangor ar ei newydd wedd heddiw.
Yn dilyn buddsoddiad o £2.5 miliwn, cafodd enw’r ganolfan ar Ffordd Ffriddoedd ei newid o Faes Glas i Ganolfan Brailsford er mwyn anrhydeddu rheolwr tîm seiclo Prydain.
Mae’r cyfleusterau bellach yn cynnwys campfa newydd sbon ar ddau lawr, stiwdio aerobig newydd, caffi newydd ac ystafelloedd newid a chawodydd sydd wedi eu newid a’u huwchraddio’n llwyr.
Roedd y prosiect yn rhan o fuddsoddiad ehangach mewn cyfleusterau chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor sydd hefyd yn cynnwys cyfleuster tenis a badminton dan do newydd.
‘Derbyniad gwresog’
Dywedodd Richard Bennett, Cyfarwyddwr Chwaraeon a Hamdden Prifysgol Bangor, fod y myfyrwyr a’r trigolion lleol yn gwerthfawrogi’r buddsoddiad:
“Mae cymryd rhan mewn chwaraeon yn rhan bwysig o ddatblygu sgiliau arwain, a gall mynd i’r gampfa yn rheolaidd sefydlu patrymau ymarfer corff iach am oes.
“Rydym yn falch bod y Ganolfan wedi cael derbyniad mor wresog gan y gymuned leol.”
Ac yn ôl yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor, mae’r buddsoddiad wedi gwneud Prifysgol Bangor yn lle “hyd yn oed mwy deniadol i astudio ynddi.”