Shane Williams
Mae’r bragdy Gwyddelig, Guinness, wedi talu teyrnged i’r Dewin o’r Aman Shane Williams yn eu fideo diweddaraf ar YouTube.

Yn y fideo, maen nhw’n tynnu sylw at y ffaith fod pobl wedi dweud wrth gyn asgellwr Cymru ei fod yn rhy fach i chwarae rygbi, ond bod angen mwy na chryfder a maint corfforol i gyrraedd y brig yn y gamp.

Yn hytrach, mae Guinness yn dweud bod rhinweddau eraill fel penderfyniad, cymeriad a maint ei uchelgais wedi arwain Shane Williams at sgorio 58 o geisiau mewn 87 o gapiau i Gymru.

Mae’r fideo yn rhan o gyfres o fideos gan Guinness sydd wedi cael eu rhyddhau cyn gemau rhyngwladol yr hydref.
Mae eraill yn talu teyrnged i faswr Lloegr Jonny Wilkinson, y sylwebydd enwog Bill McClaren a thîm rygbi Munster wnaeth drechu’r Crysau Duon yn 1978.

Gallwch ei gwylio yma: