Will Cornick
Mae dedfryd oes a roddwyd i fachgen ysgol 16 mlwydd oed am lofruddio athrawes wedi cael ei gondemnio am fod yn rhy lym gan ymgyrchwyr cyfiawnder ieuenctid.

Bydd Will Cornick yn gorfod treulio o leiaf 20 mlynedd dan glo am ladd Ann Maguire, 61, a gafodd ei thrywanu saith gwaith yn ei chefn a’i gwddf wrth iddi ddysgu ei dosbarth Sbaeneg yng Ngholeg Catholig Corpus Christi yn Leeds ym mis Ebrill.

Clywodd y llys fod Cornick wedi dweud wrth blant eraill ei fod yn casáu Ann Maguire ac am iddi farw.

Rhybuddiodd y barnwr Mr Ustus Coulson wrth gyhoeddi’r ddedfryd fod posibilrwydd na fydd Will Cornick, oedd yn 15 oed ar y pryd, fyth yn cael ei ryddhau o’r carchar.

Ond mae Penelope Gibbs, sy’n cadeirio’r Pwyllgor Sefydlog Cyfiawnder Ieuenctid (SCYJ), grŵp ymbarél o elusennau a grwpiau ymgyrchu, wedi dweud fod y ddedfryd yn rhy hir.

Dedfryd oes yn ‘rhy hir’

Dywedodd wrth raglen Today ar BBC Radio 4: “Ry’n ni’n rhoi dedfrydau sy’n anghyson gyda gweddill gorllewin Ewrop. Nid oes unrhyw wlad arall yng ngorllewin Ewrop sy’n rhoi dedfrydau oes i blant – ac mae’r bachgen hwn yn cael ei weld fel plentyn o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.”

Derbyniodd Penelope Gibbs bod yn rhaid i’r ddedfryd wasanaethu fel cosb, ond dywedodd nad oedd “unrhyw dystiolaeth” fod angen lleiafswm o 20 mlynedd.

“Roedd o’n 15 pan gyflawnodd y drosedd hon ac rydyn ni’n dweud nad oes angen cymaint â hynny o amser i’w gosbi,” meddai.

“Yr hyn sy’n hanfodol yw ei fod yn cael ei asesu pan fydd yn cael ei ryddhau fel nad ydy o berygl iddo’i hun, ac eraill, ac felly byddai pob un ohonom yn fwy diogel.

“Ond nid oes unrhyw dystiolaeth bod hynny’n cymryd 20 mlynedd ac wedi edrych, rydym yn credu mai’r ddedfryd hiraf sydd wedi cael ei roi i blentyn yw o leiaf 10 mlynedd … Dydw i ddim yn mynd i ddweud yn union beth ddylai’r ddedfryd wedi bod, ond mae 20 mlynedd a dedfryd oes yn rhy hir.”