Cynlluniau ar gyfer carchar Wrecsam
Cafodd cynlluniau manylach ar gyfer carchar newydd yn Wrecsam, fyddai’n dal 2,000 o garcharorion, eu cymeradwyo neithiwr.

Yn ddiweddar, cafodd pryderon eu datgan ynglŷn â manylion y cynllun, gyda’r cynghorwyr yn dweud eu bod yn “amwys, anghyson a ddim yn mynd i ddigon o fanylder.”

Roedd rhai o’r pryderon yn cynnwys goblygiadau’r carchar mawr newydd ar wasanaethau iechyd yn Wrecsam, effaith y carchar ar y gymuned leol a bod gwir gost y carchar yn parhau’n anhysbys.

Yn dilyn derbyn rhagor o wybodaeth gan ddatblygwr y carchar, pleidleisiodd 17 o aelodau’r pwyllgor cynllunio yn unfrydol o blaid y prosiect neithiwr.

Mae’r newydd wedi cael ei groesawu gan y cyn Ysgrifennydd Gwladol, David Jones AS, a ddywedodd ar ei gyfrif Twitter bod y datblygiad yn “newyddion da i ogledd Cymru”.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones sydd â chyfrifoldeb dros Gymunedau, Cydweithrediad a Phartneriaethau ar Gyngor Wrecsam ei fod yn “newyddion da i’r economi leol, newyddion da i swyddi lleol.”

‘Croesawu’

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad dywedodd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru Alun Cairns: “Mae angen mawr wedi bod am garchar yng ngogledd Cymru ac mae’r gymeradwyaeth derfynol i’r cynlluniau i’w chroesawu.

“Fe fydd y datblygiad yma, o ran ei adeiladu a chynnal a chadw, yn dod a nifer sylweddol o swyddi i Wrecsam a’r ardal ac yn rhoi hwb economaidd i ogledd ddwyrain Cymru.”

Yn ôl y Gweinidog Carchardai Andrew Selous fe fydd y carchar yn creu tua 1,000 o swyddi ac yn rhoi hwb o £23 miliwn y flwyddyn i’r economi leol.

Cafodd caniatâd amlinellol ar gyfer adeiladu’r carchar ar Stad Ddiwydiannol Firestone ei roi ym mis Ionawr ac mae disgwyl iddo agor yn 2017.