Mae dynes oedd yn cael profion am Ebola mewn ysbyty yn Llundain wedi profi’n negatif am yr haint marwol, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Lloegr (PHE).
Roedd y ddynes, wnaeth deithio nôl o orllewin Affrica yn ddiweddar, yn cael ei monitro yn Ysbyty St George yn ardal Tooting ers cyrraedd yr ysbyty gyda gwres uchel neithiwr.
Ond cyhoeddodd llefarydd ar ran PHE fod canlyniadau’r profion wedi dangos nad oes ganddi Ebola.
Cafodd ei chadw mewn ystafell ar ei phen ei hun dros nos ac fe ddywedodd llefarydd y bydd yn aros yn yr ysbyty am gyfnod.
“Fe gafodd pob cam priodol ei gymryd gan ein staff i warchod y cyhoedd a’r claf,” meddai.
Mae tua 5,000 o bobol wedi marw o’r firws hyd yma ac mae dros 13,000 wedi cael eu heintio – ond mae rhai arbenigwyr yn dweud y gall y gwir niferoedd fod yn llawer uwch.