Profi samplau gwaed
Mae dynes sydd â chysylltiadau a gorllewin Affrica yn cael profion am Ebola mewn ysbyty yn Llundain.

Mae hi’n cael ei monitro yn Ysbyty St George yn ardal Tooting ers cyrraedd yr ysbyty gyda gwres uchel neithiwr.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran yr ysbyty: “Mae claf gyrhaeddodd yr ysbyty neithiwr gyda symptomau a gwers uchel, yn cael profion am Ebola.”

Dywedodd llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Lloegr (PHE) ei bod yn “annhebygol” bod y claf wedi cael ei heintio gydag Ebola ond eu bod yn cymryd camau rhagofal.

Nid oedd PHE yn fodlon cadarnhau faint o bobl sydd wedi cael profion am y firws yn y DU ers yr epidemig yng ngorllewin Affrica.