Ann Maguire
Mae bachgen 16 oed wedi pledio’n euog i gyhuddiad o lofruddio’r athrawes Ann Maguire.

Roedd y llanc wedi trywanu Ann Maguire, 61, wrth iddi ddysgu yng Ngholeg Catholig Corpus Christi yn Leeds ym mis Ebrill.

Roedd y bachgen yn 15 oed ar y pryd.

Roedd wedi cyfaddef i’r llofruddiaeth wrth iddo ymddangos yn Llys y Goron Leeds heddiw.

Nid yw’n bosib cyhoeddi enw’r bachgen am resymau cyfreithiol.

‘Anesboniadwy’

Dywedodd Paul Greaney QC ar ran yr erlyniad ei bod “yn bwysig nodi bod rhieni’r bachgen yn bobl barchus ac yn rhieni cyfrifol,” a’u bod nhw’n methu a deall pam bod eu mab wedi ymddwyn yn y fath fodd.

Ychwanegodd eu bod nhw wedi cydweithio’n llawn gyda’r heddlu a’r erlyniad a bod y cariad a’r gefnogaeth a gafodd y bachgen gan ei deulu wedi gwneud ei weithredoedd yn fwy “anesboniadwy.”

Dywedodd bod y bachgen wedi bod yn nosbarth Sbaeneg Ann Maguire a bod ei adroddiadau academaidd ganddi wedi bod “yn gadarnhaol.”

‘Cynllwynio’

Nid oedd unrhyw beth i awgrymu bod y bachgen yn peri risg o gyflawni trosedd o’r fath, meddai, ond roedd disgyblion wedi sylwi rhai agweddau pryderus am ei ymddygiad.

Roedd wedi dweud wrth blant eraill ei fod yn casáu Ann Maguire ac am iddi farw.

Mewn negeseuon ar Facebook ar Noswyl Nadolig 2013, roedd y bachgen wedi dweud wrth ffrind ei fod eisiau lladd Ann Maguire fel y gallai dreulio gweddill ei fywyd yn y carchar ac na fyddai’n rhaid iddo boeni am ei fywyd nac arian.

Dywedodd wrth seiciatrydd ei fod wedi cynllwynio’r llofruddiaeth a’i fod eisiau cael ei ddal a mynd i’r carchar.

Roedd wedi dod a photel o wisgi i’r ysgol er mwyn dathlu ar ôl yr ymosodiad, meddai’r erlyniad.

Roedd wedi dweud wrth ddisgyblion eraill ei fod am ymosod ar Ann Maguire ar fore’r llofruddiaeth, ac wedi dangos rhai o’r cyllyll roedd wedi dod gydag ef.

Cafodd Ann Maguire ei thrywanu yn ei gwddf a’i chefn ac roedd y bachgen “wedi mynd ar ei hol gan barhau i’w thrywanu wrth iddi geisio dianc,” meddai’r erlyniad.

Roedd rhieni’r bachgen a theulu Ann Maguire yn y llys ar gyfer y gwrandawiad.