Mae dynion yn dioddef mwy o iselder na merched ar ôl cael diagnosis o ganser, yn ôl arolwg newydd gan yr elusen ganser Tenovus.

Mae’r dystiolaeth, sy’n cael ei chyflwyno yng nghynhadledd flynyddol y Sefydliad Ymchwil Canser Rhyngwladol heddiw, yn cefnogi ymchwil blaenorol sy’n profi fod dynion yn ei chael hi’n anoddach ymdopi hefo’r clefyd.

Ond fe ddangosodd ymchwil Tenovus fod 88% o ddynion yn dioddef llai o iselder ar ôl chwe sesiwn sy’n cynnig cefnogaeth gyda’r elusen. Gwelwyd hefyd fod dynion yn cymryd llai o amser cyn teimlo’n well ar ôl y sesiynau na merched.

Mae Tenovus felly yn galw ar ddynion sydd wedi eu heffeithio gan ganser i ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ba gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw.

Er bod mwy o ddynion na merched yn cael diagnosis o ganser yng Nghymru, dim ond un o bob pump o’r rhai sy’n cael eu cefnogi gan sesiynau Tenovus sy’n ddynion.

‘Ysbrydoliaeth’

Mae David Payne o Bontyclun wedi bod yn cael cymorth rheolaidd gan Tenovus, ar ôl cael diagnosis o ganser yn 2010:

“Mae’r sesiynau cynghori dw i wedi eu cael wedi bod yn ysbrydoliaeth. Mi faswn i’n eu disgrifio fel rhywbeth oedd yn fy nghadw uwchben y lan pan oeddwn i’n teimlo fel fy mod yn boddi. Mae’r cyfle i siarad am eich teimladau a’ch ofnau wedi bod yn amhrisiadwy,” meddai.

Ychwanegodd Claudia McVie, Prif Weithredwr Tenovus: “Rydym yn deall bod llawer o ddynion yn ceisio ymddangos yn gryf pan maen nhw’n cael eu heffeithio gan ganser, ond mae ein hymchwil yn dangos bod siarad am broblemau gyda rhywun proffesiynol yn gwneud gwahaniaeth mawr i safon byw.”