Gallai gwaith shifft fod yn gysylltiedig â nam ar yr ymennydd yn y tymor hir, yn ôl astudiaeth a gynhaliwyd gan wyddonwyr o Brifysgol Abertawe.

Mae’r canfyddiadau’n awgrymu y byddai’n werth monitro iechyd pobl sydd wedi gweithio patrymau shifft am 10 mlynedd neu fwy.

Mae gwyddonwyr eisoes yn gwybod fod gwaith shifft yn amharu ar gloc mewnol y corff, fel jet lag, ac mae’n gysylltiedig ag ystod o broblemau iechyd fel wlserau, clefyd y galon a rhai mathau o ganser.

Ond ychydig iawn o waith sydd wedi ei wneud cyn hyn am effaith posibl gwaith shifft ar yr ymennydd.

Mae’r astudiaeth newydd, a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn meddygol Occupational & Environmental Medicine, yn awgrymu bod yr effaith ar yr ymennydd yn ymddangos i fod fwyaf amlwg mewn pobl sydd wedi gwneud gwaith shifft dros gyfnod o 10 mlynedd neu fwy.

Er bod modd lleddfu ar y sgil effeithiau, gall hynny gymryd o leiaf bum mlynedd.

‘Effeithio galluoedd meddyliol’

Fe wnaeth yr ymchwilwyr astudio mwy na 3,000 o bobl a oedd naill ai’n gweithio neu oedd wedi ymddeol, yn ystod tri chyfnod – yn 1996, 2001 a 2006.

Dangosodd y data fod y rhai sydd, neu oedd yn arfer gweithio shifftiau, wedi cael sgôr llai mewn profion oedd yn profi’r cof, cyflymder prosesu a phŵer cyffredinol yr ymennydd o’i gymharu â rhai nad oedd erioed wedi gweithio shifftiau.

Dywedodd y Doctor Philip Tucker, Athro Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae’r astudiaeth yn dangos bod gwaith shifft tymor hir yn effeithio ar fwy na chloc y corff ac iechyd corfforol gweithwyr.

“Mae hefyd yn effeithio galluoedd meddyliol gweithwyr. Gall namau o’r fath effeithio ar ddiogelwch gweithwyr shifft, yn ogystal â’u hansawdd bywyd.”