Yr Arglwydd Barnett
Mae cyn-weinidog cabinet Llafur, yr Arglwydd Barnett, wedi marw’n 91 oed.
Yr Arglwydd Barnett oedd prif ysgrifennydd y Trysorlys yn y 1970au a bu’n gyfrifol am ddyfeisio’r system ar gyfer dyrannu gwariant cyhoeddus i’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Mae Fformiwla Barnett yn parhau i gael ei ddefnyddio hyd heddiw, er gwaethaf dadleuon yr Arglwydd Barnett mai ateb dros dro oedd y system ac y dylai gael ei ddiwygio gan nad yw’r arian yn cael ei rannu’n deg.
Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur yn Nhŷ’r Arglwyddi, y Farwnes Royall: “Roedd Joel yn unigolyn hynod.
“Fel AS, gweinidog a chydweithiwr yn Nhŷ’r Arglwyddi, roedd hyd y diwedd yn ddiwyd yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif ac yn gwneud ei orau er mwyn sicrhau’r gorau i bobl y wlad hon.”