David Cameron ac Angela Merkel yn uwch-gynhadledd Natio yng Nghasnewydd ym mis Medi
Mae Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, wedi rhybuddio David Cameron fod ei ymgyrch i geisio cyfyngu ar ryddid pobl i fewnfudo o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn gwthio’r DU allan o’r UE, yn ôl adroddiadau newyddion yn yr Almaen.

Roedd cylchgrawn newyddion Der Spiegel wedi dyfynnu ffynonellau o fewn swyddfa Angela Merkel oedd yn dweud ei bod hi’n ofni bod Prydain yn agosáu at sefyllfa lle nad oedd yn bosib troi’n ôl.

Mae Angela Merkel wedi ei gwneud hi’n glir y bydd yn tynnu ei chefnogaeth i aelodaeth Prydain o’r UE os yw David Cameron yn mynnu pwyso am fesurau a fyddai’n tanseilio’r egwyddor o symudiad rhydd.

Mae’r Prif Weinidog dan bwysau i dynhau rheolaethau mewnfudo ym Mhrydain yn sgil poblogrwydd cynyddol UKIP.

Yn ôl y Sunday Times, mae David Cameron yn ystyried cynlluniau a fyddai’n ymestyn rheolau’r UE “i’r eithaf” er mwyn gwahardd mewnfudwyr sydd heb swyddi ac estraddodi’r rhai hynny sy’n methu cefnogi eu hunain ar ôl tri mis.

Mae Downing Street wedi gwrthod gwneud sylw ynglŷn â’r adroddiadau ond dywedodd llefarydd: “Bydd y Prif Weinidog yn gwneud yr hyn sy’n iawn i Brydain, fel y mae wedi datgan yn glir dro ar ôl tro.”