Mae tad i dri o blant bach wedi cael ei saethu’n farw, wedi iddo herio dau leidr wnaeth ymosod arno wrth iddo gloi ei siop am y nos.

Fe gafodd Pragaret Singh, 35, ei saethu yn ei frest ac yn ei stumog wrth iddo adael Manchester Food Traders yn Openshaw, meddai Heddlu Greater Manchester.

Y gred, yn ôl ditectifs, yw fod Mr Singh wedi herio o leia’ un o’r lladran, cyn iddo gael ei saethu. Bu farw’n ddiweddarach yn yr ysbyty.

Fe gafodd y lladron “swm mawr o arian”, meddai’r heddlu, cyn dianc.