Vladimir Putin - awyrennau'n hofran ac yn ymarfer dros ardal eang
Fe fu’n rhaid i awyrennau RAF Typhoon rwystro awyren o Rwsia rhag dod i mewn i’r gofod uwchben gwledydd Prydain ddoe, yn ôl datganiad swyddogol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Dyma’r ail dro mewn tridiau i awyrennau llu awyr Vladimir Putin hedfan drosodd, meddai’r datganiad.
Cafodd awyren ddoe – o fath Tupolev Tu-95 – ei hebrwng o’r awyr uwchben Prydain gan awyrennau rhyfel o RAF Lossiemouth yn yr Alban.
Roedd dwy awyren fomio Bear wedi’u gweld ddydd Mercher diwetha’ yn hofran dros Fôr y Gogledd. Bryd hynny, roedd radar NATO wedi adnabod nifer o awyrennau Rwsia yn gwneud “manoeuvres sylweddol” o’r Môr Du at Gefnfor Iwerydd.