Mae dyn sydd wedi’i arestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth gwraig y cafodd darnau o’i chorff eu golchi ar draeth, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Fe arestiwyd y dyn 51 oed o Westcliff-on-Sea ddoe gan Heddlu Essex. wedi llofruddiaeth Angela Millington, 33.

Fe ddaethpwyd o hyd i weddillion Ms Millington, gan gerddwyr ar Ynys Foulness, Essex, ar Fehefin 21. Does neb yn siwr iawn am ba hyd yr oedd ei gweddillion wedi bod yn y tir corsiog. Fe gafodd hi ei hadnabod trwy ddefnyddio DNA.

Yn ôl Heddlu Essex, mae’r dyn a gafodd ei arestio wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tan Tachwedd 17, tra bod ymchwiliadau pellach yn mynd rhagddynt.