Mae’r heddlu wedi enwi’n swyddogol y ddau ddyn fu farw mewn tân mewn warws tân gwyllt yn Stafford.

Fe gafodd Simon Hillier, 41, a Stewart Staples, 57, eu llosgi yn y tân ar safle SP Plastics ar stad ddiwydiannol Baswich ddydd Iau.

Yn ôl datganiad gan Heddlu Swydd Stafford: “Er nad oes disgwyl i ni allu adnabod cyrff yn swyddogol am rai wythnosau, mae tystiolaeth a gasglwyd yn cadarnhau fod y ddau ddyn yn y fan a’r lle pan ddigwyddodd y ffrwydriad yn y wars.”

Mae ditectifs yn credu fod Mr Hillier yn gweithio ar y safle ar y pryd, a’r gred ydi mai cwsmer oedd Mr Staples. Roedd y ddau ddyn yn dod o Hednesford.