Cysylltiadau gyda Leon Brittan a arweiniodd at yr ymddiswyddiad
Mae Fiona Woolf wedi cyhoeddi ei bod yn ymddiswyddo o fod yn Gadeirydd panel i ymchwilio i achosion hanesyddol o gam- drin plant.

Fe ddaeth y cyhoeddiad ddiwedd y dydd ac mae’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, wedi mynegi ei siom.

Roedd yn benderfyniad anodd, meddai Fiona Woolf, ond yn y diwedd roedd rhaid iddi gydnabod nad oedd ganddi gefnogaeth dioeddefwyr.

Roedd y rheiny wedi dweud wrth y panel heddiw nad oedd ganddyn nhw ffydd ynddi hi, oherwydd ei chysylltiadau gyda’r Sefydliad ac, yn arbennig, y cyn Ysgrifennydd Cartref Leon Brittan.

Fe fydd honiadau ei fod ef wedi anwybyddu tystiolaeth am gam-drin yn sicr o fod yn rhan o ymchwiliadau’r panel.