Bydd y gwasanaeth bws T3 newydd, sy’n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru, yn dechrau ddydd Sul i gymryd lle’r gwasanaeth X94 rhwng Wrecsam a’r Bermo a gafodd ei ddiddymu fis Rhagfyr diwethaf.
Gan ddilyn llwybr y gwasanaeth blaenorol, mae’r gwasanaeth newydd o dan ofal GHA Coaches, yn cysylltu Wrecsam, Llangollen, Corwen, y Bala, Dolgellau â’r Bermo saith niwrnod yr wythnos. Mae amserlen newydd wedi’i chyhoeddi ar gyfer dyddiau gwaith a Sadyrnau, ond bydd amserlen dydd Sul yn aros fel yr oedd.
Caiff y gwasanaeth ei wella eto fyth yn y gwanwyn flwyddyn nesaf gan y bydd bysiau newydd deulawr yn cael eu defnyddio, gyda seddi cyfforddus, mwy o le ar gyfer bagiau a WIFI am ddim.
Meddai’r Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu ailddechrau’r gwasanaeth pwysig hwn ar ôl i Arriva dynnu allan o ddarparu’r gwasanaeth llynedd. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol i sicrhau bod pobl, yn enwedig aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas, yn cael pob cyfle i weithio a defnyddio gwasanaethau. Mae’r gwasanaeth T3 yn cysylltu nifer o drefi a chymunedau cefn gwlad a bydd yn rhan o’r rhwydwaith Traws Cymru ehangach sy’n darparu gwasanaeth bysiau pell i Gymru.
“Flwyddyn nesaf, byddwn yn cyflwyno cerbydau newydd ar hyd y llwybr hwn i wneud y teithiau’n fwy hygyrch ac yn fwy cyfforddus. Mae ein buddsoddiad yn y gwasanaeth hwn yn dyst o’n hymrwymiad i ddarparu system trafnidiaeth gyhoeddus fodern ac effeithiol i Gymru.”
Mae amserlen y T3 ar gael ar wefan a llinell ffôn Traveline Cymru.