Mae Arlywydd Burkina Faso, Blaise Compaore, wedi cyhoeddi heddiw ei fod yn camu lawr ar ôl 27 mlynedd o fod mewn pŵer, a hynny’n dilyn dyddiau o brotestiadau.

Ddoe fe gafodd golwg360 sgwrs â Ffred Ffransis, sydd wedi bod yn y wlad Affricanaidd gydag aelodau eraill o’i deulu ond wedi methu â dychwelyd i Gymru oherwydd y protestiadau treisgar oedd yn digwydd.

Ond heddiw fe ymddiswyddodd Compaore – diwrnod yn unig ar ôl mynnu y byddai’n parhau fel arlywydd nes y flwyddyn nesaf.

Yn ôl gorsaf radio’r wladwriaeth mae pennaeth staff y fyddin, y Cadfridog Honore Traore, wedi cipio pŵer bellach.

Dathlu yn y strydoedd

Roedd dathlu yn un o brif sgwariau prifddinas Burkina Faso, Ouagadougou, ar ôl y cyhoeddiad heddiw bod Compaore’n gadael ar ôl dros chwarter canrif fel arlywydd.

Hwn oedd yr ail ddiwrnod i’r dorf ymgynnull yn y sgwâr i alw arno i adael, yn dilyn protestiadau gwaedlyd yn y wlad.

Yn ôl Ffred Ffransis, roedd protestwyr wedi ymosod ar dŷ brawd yr Arlywydd ddoe ac fe gafodd rhai pobl eu saethu.

Fe dorrodd protestwyr i mewn i adeilad y senedd ddoe hefyd i geisio stopio plaid wleidyddol Compaore rhag pasio mesur fyddai’n caniatáu iddo sefyll fel arlywydd unwaith yn rhagor y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Compaore, sydd yn 63 oed, ei fod yn camu lawr yn syth “er mwyn cael etholiad teg a thryloyw mewn 90 diwrnod”.

Mae’n ymddangos fod y lluoedd arfog nawr wedi camu i mewn i’r bwlch o bŵer gwleidyddol y mae Compaore wedi’i adael ar ôl.

Yn ôl adroddiadau, mae’r cyn-arlywydd nawr yn teithio i ddinas Po yn ne’r wlad, yn agos i’r ffin â Ghana, ond dyw hi ddim yn glir eto a yw’n bwriadu gadael y wlad.