Meirw Byw Cymdeithas yr Iaith
Bu’r meirw byw yn crwydro strydoedd Caernarfon heddiw mewn protest yn erbyn cwmni Horizon Nuclear sydd eisiau adeiladu adweithydd niwclear newydd ar Ynys Môn.

Mae’r cwmni wrthi’n cynnal cyfres o gyfarfodydd fel rhan o ymgynghoriad cymunedol am yr atomfa newydd, a heddiw fe aeth criw o aelodau Cymdeithas yr Iaith i’r cyfarfod yng Ngwesty’r Celtic Royal Caernarfon.

Roedd yr ymgyrchwyr wedi gwisgo fel zombies – y Meirw Byw – er mwyn amlygu peryglon ynni niwclear i ddyfodol cymunedau’r gogledd orllewin, a’r peryglon i ddyfodol y Gymraeg fel iaith hyfyw gymunedol.

Difa’r Fro Gymraeg?

Yn ddiweddar, fe aeth dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith allan i Siapan, er mwyn gweld beth yn union ydoedd effaith amgylcheddol a chymunedol i’r ddamwain niwclear yno.

Fel rhan o dystiolaeth i’r ymgynghoriad cymunedol, fe rannodd Selwyn Jones a fu ar y ddirprwyaeth ei brofiadau o ymweld â Fukushima, a’r gwersi i Gymru.

“Mae adroddiad asesiad iaith datblygiad Wylfa Newydd gan y cwmni yn llawn o dyllau, ac yn datgan yn y bôn, mai canran cymharol fechan o’r gweithwyr fydd yn lleol,” meddai Sel Jones.

“Nid oes unrhyw sôn yn yr adroddiad hwnnw ynglŷn â beth fyddai effaith damwain yn yr orsaf ar fywyd cymunedau Cymraeg eu hiaith.

“Yn syml, gan fod y rhan fwyaf o gymunedau 70% yn y gogledd orllewin, byddai unrhyw ddamwain yn golygu diwedd ar fywyd y cymunedau Cymraeg hynny.

“Does dim ond rhaid i ni edrych ar yr hyn sydd yn digwydd yn Fukushima i weld pa mor angheuol yw damwain niwclear ar fywydau cymunedau.”

Peryglu dyfodol y Gymraeg

Ychwanegodd Menna Machreth, Cadeirydd Rhanbarth Gwynedd/Môn: “Ar ddiwrnod Calan Gaeaf, rydym wedi gwisgo fel meirw byw, er mwyn amlygu peryglon amlwg ynni niwclear.

“Mae dyletswydd arnom i ddangos bod ynni niwclear yn hynod o ddrud, yn fudur ac yn peryglu bywyd cymunedol a dyfodol y Gymraeg. Dyna’r neges rydym am ei roi i bobl ac i gwmni Horizon.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Horizon.