Mae dros hanner pobl yr Alban yn credu y dylai’r wlad gynnal refferendwm arall ar annibyniaeth ymhen pum mlynedd, yn ôl pôl piniwn newydd.

Ac fe ddywedodd dau o bob tri wrth bôl Ipsos MORI y byddan nhw o blaid cynnal refferendwm arall yn y deng mlynedd nesaf.

Mae’r ffigyrau’n rhan o’r un pôl a awgrymodd ddoe y byddai Llafur yn colli bron pob un o’u seddau Albanaidd yn yr etholiad cyffredinol flwyddyn nesaf, gyda’r SNP yn ennill dros 50.

Y ffigyrau

Cafodd yr ymchwil gan Ipsos MORI ar gyfer STV News ei gynnal rhwng 22 a 29 Hydref, gan holi dros fil o Albanwyr.

Dywedodd 58% o bobl eu bod nhw eisiau gweld pleidlais arall ar annibyniaeth o fewn pum mlynedd, gyda 66% o blaid cynnal un arall yn y ddegawd nesaf.

Roedd 53% hefyd yn credu y dylai refferendwm arall gael ei gynnal petai’r Ceidwadwyr yn ennill etholiad cyffredinol San Steffan yn 2015.

Ac fe ddywedodd 55% y bydden nhw o blaid refferendwm arall ar annibyniaeth i’r Alban petai Prydain yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2017.

Effaith yr addewid

Yn ôl Mark Diffley, cyfarwyddwr ymchwil i Ipsos MORI, doedd y canlyniadau “ddim yn llawer o syndod” iddo ef.

Ond fe awgrymodd fod yr ‘addewid’ gafodd ei wneud i etholwyr yr Alban ddyddiau cyn y refferendwm yn ffactor sylweddol wrth esbonio pam bod cymaint eisiau ail bleidlais.

Dywedodd arweinwyr prif bleidiau gwleidyddol unoliaethol Prydain y bydden nhw’n dechrau ar broses o ddatganoli pwerau sylweddol i’r Alban yn syth petai nhw’n pleidleisio ‘Na’ i annibyniaeth – ond ers hynny maen nhw wedi llusgo’u traed.

“Gan fod 45% o bobl wedi pleidleisio Ie [i annibyniaeth ar 18 Medi], byddech chi’n dychmygu eu bod nhw i gyd eisiau refferendwm arall,” meddai Mark Diffley.

“Yn nhermau pleidleiswyr Na, fe allwn nhw fod eisiau pleidlais arall am nifer o resymau.

“Efallai eu bod nhw rhywfaint yn siomedig â beth sydd wedi digwydd ers hynny o ran y pwerau ychwanegol, ac efallai bod rhai oedd wedi’u temtio i bleidleisio Ie ond heb wneud sydd yn awyddus i gael y drafodaeth eto.”

Sturgeon yn addo dim

Ychwanegodd Mark Diffley y gallai’r awydd uchel am ail bleidlais hefyd fod oherwydd bod pobl yr Alban dal yng nghanol cyfnod o drafodaeth frwd am wleidyddiaeth, ac felly y gallai fod yna ddarlun gwahanol ymhen blwyddyn.

Cyn y refferendwm ym mis Medi fe ddywedodd arweinydd yr SNP Alex Salmond na fyddai’n ceisio cynnal pleidlais arall petai’r Albanwyr yn dweud ‘Na’ i annibyniaeth.

Ond ers hynny mae Salmond wedi camu lawr ac mae arweinydd newydd yr SNP, Nicola Sturgeon, wedi gwrthod datgan na fyddai pleidlais arall ar annibyniaeth am o leiaf cenhedlaeth, fel mae’r pleidiau unoliaethol wedi galw arni i wneud.

Yn ôl Sturgeon, fe fydd refferendwm arall yn cael ei chynnal “pan mae pobl yr Alban yn teimlo bod yr amser yn iawn”.