Stadiwm Nantporth
Fe fydd chwaraewyr ieuenctid gorau Cymru’n herio Lloegr heno yn Stadiwm BookPeople ym Mangor, mewn gêm fydd yn cael ei darlledu’n fyw ar Sky Sports.
Mae’r ornest rhwng timau dan-16 Cymru a Lloegr heno’n rhan o dwrnament ieuenctid rhyngwladol y Victory Shield sydd hefyd yn cynnwys Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Yn ddiweddar fe enillodd tîm dan-16 Cymru ddwy gêm gyfeillgar yn erbyn Ffrainc fel rhan o’u paratoadau ar gyfer y twrnament.
Dim ond £5 yw tocynnau i oedolion ar gyfer y gêm yn Nantporth heno, gyda phlant yn cael mynd i mewn am ddim.
Sêr y dyfodol
Cafwyd torf o bron i 2,000 ym Mangor y llynedd i weld y tîm dan-16 yn ennill 4-0 yn erbyn Gogledd Iwerddon, ac mae disgwyl i’r niferoedd heidio yno eto heno i wylio Cymru’n herio’r hen elyn.
“Mae’n paratoadau ni ar gyfer y twrnament wedi bod yn dda iawn – yn enwedig ennill y ddwy gêm yn erbyn Ffrainc yng Nghasnewydd am y tro cyntaf erioed,” meddai hyfforddwr y tîm Osian Roberts.
“Dw i’n hapus efo sut mae’r tîm yn datblygu, ac mae rhai o’r bechgyn wedi chwarae i’r tîm dan-17 mewn gemau rhagbrofol diweddar ym Melarws yn barod.”
Dywedodd cyn-ymosodwr Cymru Ian Rush, sydd hefyd yn gweithio â’r tîm, mai dyma oedd cyfle’r hyfforddwyr i fagu’r chwaraewyr ieuenctid i gyrraedd y tîm cyntaf, fel nifer o sêr Cymru heddiw.
“Mae’r gemau yma’n hanfodol achos dyma ble rydyn ni’n magu arferion da yn y bechgyn, fel sydd wedi’i brofi gan bobl fel Aaron Ramsey, Johnny Williams ac Emyr Huws.
“Mae cyfle iddyn nhw symud ymlaen fel yna os ydyn nhw’n dangos digon o ymdrech ac ymroddiad.
“Dw i eisiau i’r bechgyn yma gael y profiad o chwarae mewn twrnament rhyngwladol na ches i, a chwaraewyr fy nghyfnod i, erioed wneud.”
Bydd y gic gyntaf yn am saith.
Carfan Cymru
Scott Coughlan (Caerdydd, Ysgol Gatholig Yr Esgob Vaughan)
Adam Przybek (West Brom, Academi Sandwell)
Ben Williams (Blackburn Rovers, Ysgol Bishop Rawstorne)
Theo Llewellyn (Dinas Bryste, QEH Bristol)
Daniel Jefferies (Abertawe, Ysgol Cwmtawe)
Joe Lewis (Abertawe, Ysgol Cwmtawe)
Liam Angel (Caerdydd, Pontllanfraith)
Ibi Sosani (Caerdydd, Ysgol Mary Immaculate)
Matty Smith (Man City, Ysgol Annibynnol St Bedes RC)
Sam Phillips (Wolves, Thomas Telford)
Ethan Ampadu (Caerwysg, Coleg St Lukes Sports & Science)
Max Smallcombe (Caerwysg, Coleg Bodmin)
Keiron Proctor (Caerdydd, Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr)
Liam Cullen (Abertawe, Ysgol Cwmtawe)
Ben Woodburn (Lerpwl, Ysgol Uwchradd Rainhill)
Tyler Roberts (West Brom, Academi Sandwell)
Robbie Burton (Arsenal, Academi Dechnoleg Leigh)