Gylfi Sigurdsson
Fe ddylai Gylfi Sigurdsson fod yn holliach i wynebu Everton yfory yn Lerpwl.

Bu’n rhaid i’r chwaraewr dylanwadol rhyngwladol adael y maes yn ystod ail hanner y fuddugoliaeth yn erbyn Caerlŷr y penwythnos diwetha’, ac ni fu’n rhan o’r gêm ganol wythnos yn erbyn Lerpwl.

Mae disgwyl i Ki Sung-yueng chwarae hefyd er iddo ddiodde’ anaf i’w ysgwydd.

Hefyd bydd Lukasz Fabianski, Wayne Routledge a Wilfired Bony yn dychwelyd i’r tîm ar ôl cael eu gorffwys ar gyfer y trip i Anfield.

Ac mae’r amddiffynnwr Federico Fernandez ar gael wedi i’r FA ddiddymu’r cerdyn coch a ddangoswyd iddo am dacl ar Philippe Coutinho yn ystod y gêm gwpan yn erbyn Lerpwl.