Mae elusen amddiffyn anifeiliaid yn derbyn mwy o alwadau gan bobol pan mae lleuad lawn.
Eleni bu cynnydd o 12%, sef 169 o alwadau ychwanegol, i’r RSPCA pan fu lleuad lawn.
Ym mis Ebrill bu’r cynnydd ar ei fwyaf adeg lleuad lawn, sef 339 o alwadau yn fwy na’r arfer (28%).
“Fedrwn ni ddim esbonio pam fod y ffenomenon yma’n digwydd,” meddai Dermot Murphy o’r RSPCA, “ond mae tystiolaeth ar lafar gan y gwasanaethau brys eu bod nhw hefyd yn gweld cynnydd .
“Mae’n bosib bod y goleuni ychwanegol yn arwain at fwy o bobol yn crwydro o gwmpas ac yn fwy tebygol o weld mwy o anifeiliaid mewn trybini, neu hwyrach fod rhywbeth yn yr hen goel bod lleuad lawn yn denu natur dywyll yr hil ddynol i’r wyneb.”
Lleuad lawn yn ysgogi trais
Bu i astudiaeth o 1,200 o garcharorion yn Leeds yn y 1990au ddangos eu bod yn fwy treisgar pan oedd lleuad llawn.