Gwibdaith - Paul Thomas ail o'r dde
Mae cyn-ganwr Gwibdaith Hen Frân, Paul Thomas wedi ymddiswyddo o Gabinet Cyngor Gwynedd.

Fe fydd yn ail-gartrefu yn y De yn dilyn ei benderfyniad.

Mae arweinydd y Cyngor, Dyfed Edwards a’r cynghorydd a fydd yn olynu Paul Thomas, Mair Rowlands wedi talu teyrnged iddo.

Mewn datganiad, dywedodd Dyfed Edwards ei fod yn dymuno diolch iddo “am ei ymroddiad a’i arweiniad dros y blynyddoedd diwethaf” a’i fod yn “dymuno’n dda iddo i’r dyfodol”.

Ychwanegodd: “Mae wedi bod yn braf cydweithio â gŵr sydd â gweledigaeth gref dros Wynedd.”

Dau arall i’r Cabinet – ond heb bortffolio hyd yma

Bydd Mair Rowlands yn gyfrifol am faes hamdden, plant a phobol ifanc gan gynnwys maes iechyd plant a phobol ifanc.

Bydd Mandy Williams-Davies a Dafydd Meurig yn ymuno â’r Cabinet ym mis Ionawr, pan fyddan nhw’n cael gwybod pa feysydd y byddan nhw’n gyfrifol amdanyn nhw.