Fe fydd canolfan arbennig yn cael ei hagor heno yng Nghwmbrân i henoed ac unrhyw un arall sydd yn poeni am ymwelwyr dieithr yn curo ar eu drysau ar noson Calan Gaeaf.

Mae disgwyl i filoedd o blant a’u rhieni ar draws Cymru fod allan heno’n chwarae ‘tric neu daffi’, y traddodiad Calan Gaeaf o gnocio ar ddrysau’u cymdogion yn gofyn am ddanteithion.

Ond mae’r arfer hefyd yn peri gofid i lawer o bobl hŷn neu sydd yn byw ar eu pen eu hunain, ac sydd yn betrusgar o ateb y drws i bobl ddieithr.

Heno fe fydd canolfan Cartrefi Cymunedol Bron Afon, y gymdeithas dai yn Nhorfaen, ar agor rhwng 4.30yp a 7.30yh ar gyfer pobl sydd ddim eisiau bod gartref pan ddaw’r ymwelwyr.

Pryder

Dyma’r tro cyntaf i Fron Afon agor y ganolfan yng Nghwmbrân  ar gyfer noson Calan Gaeaf, ac fe ddywedodd Ben Black o’r gymdeithas dai fod yr 80 lle oedd ar gael i denantiaid eisoes wedi llenwi.

“Rydyn ni’n siarad â llawer o denantiaid, ac mae Calan Gaeaf yn bryder iddyn nhw,” meddai Ben Black wrth golwg360.

“Wrth gwrs, mae Calan Gaeaf yn amser teuluol gyda mamau a thadau hefyd yn curo ar ddrysau, ond i rai pobl maen nhw’n canfod eu hunain yn eistedd yn y tŷ gyda’r goleuadau a’r teledu bant, a dyw e ddim yn neis iawn.

“Felly roedden ni’n teimlo y gallwn ni wahodd 80 o bobl – dyna faint yr ystafell – fel eu bod nhw’n gallu cymdeithasu â chymdogion, ffrindiau, teulu, pobl eraill yn yr un sefyllfa.

“Maen nhw yno i fwynhau Calan Gaeaf, dyna fydd thema’r noson.”

Agor i bawb

Pwysleisiodd Ben Black nad pobl hŷn yn unig oedd wedi dweud yr hoffen nhw ddod, ac fe esboniodd eu bod wedi penderfynu agor y ganolfan am y tair awr maen nhw’n ei deimlo sydd fwyaf prysur pan mae’n dod at ‘dric neu daffi’.

“Ry’n ni’n cael pobl ieuengach yn dod hefyd, mae e ar gyfer unrhyw un sydd ddim eisiau bod gartref ar eu pen eu hunain neu bobl yn cnocio ar eu drws,” esboniodd Ben Black.

“Doedden ni ddim eisiau iddo agor yn hwyrach gan nad ydyn ni eisiau bod pobl yn gorfod teithio gyda’r nos ar eu pen eu hunain.”

Mynnodd nad oedd agor y ganolfan eleni’n arwydd bod y broblem o ‘dric neu daffi’ yn gwaethygu yn Nhorfaen, er bod rhai siopau wedi cyfyngu ar faint o wyau a blawd maen nhw’n ei werthu yn ystod y dyddiau diwethaf.