Mae'r Gweinidog Edwina Hart draw yn Japan
Fe fydd cwmni bwyd o Siapan yn creu 100 o swyddi mewn ffatri newydd yn Sir y Fflint.
Dyma fuddsoddiad cyntaf cwmni Calbee Inc – sy’n cynhyrchu byrbrydau sawrus – yn Ewrop ac fe fydd y ffatri newydd yn cael ei hadeiladu yn Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy.
Cyhoeddwyd y newyddion yn Japan heddiw gan Weinidog yr Economi, Edwina Hart ac Akira Matsumoto, Cadeirydd a Phrif Weithredwr Calbee, yn dilyn cyfarfod i gwblhau’r cytundeb.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cefnogaeth ariannol i’r prosiect ac mae disgwyl i’r gwaith cynhyrchu ddechrau yn hanner cyntaf 2015.
Galw mawr am y byrbrydau
“Calbee yw’r diweddaraf o nifer o gwmnïau o Japan sydd wedi buddsoddi yng Nghymru, ac rwy’n croesawu’r penderfyniad i sefydlu ei ffatri Ewropeaidd gyntaf yng Nghymru,” meddai Edwina Hart.
“Dyma hefyd y prosiect mewnfuddsoddi rhyngwladol diweddaraf yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, a brofodd mai dyma’r lleoliad mwyaf deniadol, wedi i nifer o safleoedd yn Ewrop ac yn y Deyrnas Unedig gael eu hystyried.
Ychwanegodd Akira Matsumoto bod cwmni Calbee am wneud “ymrwymiad hirdymor i dyfu’r busnes o’r safle pwysig hwn yng Nglannau Dyfrdwy”.
Prydain yw marchnad byrbrydau sawrus fwyaf Ewrop, ac amcangyfrifir ei bod yn werth tua £3 biliwn ac wedi tyfu 5% eleni.