Bydd Stadiwm y Mileniwm ac Undeb Rygbi Cymru’n dadorchuddio cae newydd y maes yr wythnos nesaf, ddyddiau cyn i’r tîm ddechrau ar gyfres o gemau’r hydref.
Bu gwaith yn mynd ymlaen ers rai misoedd i osod cae lled-artiffisial newydd yn Stadiwm y Mileniwm, yn dilyn cwynion cyson am safon y glaswellt.
Dydd Llun fe fydd yr arwyneb Desso newydd yn cael ei ddadorchuddio, pum diwrnod cyn i dîm rygbi Cymru herio Awstralia yn eu gêm gyntaf.
Cwynion
Mae cwynion di-ri wedi bod am safon cae Stadiwm y Mileniwm ers blynyddoedd, gan dimau rygbi a phêl-droed, gyda chwaraewyr yn cwyno fod y tir yn torri’n rhy hawdd.
Roedd y glaswellt yno’n gorfod cael ei ailosod sawl gwaith bob blwyddyn ar adegau, gyda diffyg golau haul yn cyrraedd y cae yn cael ei feio am dyfiant sâl y glaswellt.
Daeth y cwynion i benllanw eleni ar ôl Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, gyda’r Undeb Rygbi’n cyhoeddi y byddai cael lled-artiffisial newydd yn cael ei osod erbyn gemau’r hydref eleni.
Mae’r dechnoleg Desso’n eithaf tebyg i’r arwyneb hybrid sydd i’w gael yn Stadiwm Dinas Caerdydd a Stadiwm y Liberty yn Abertawe, gan ddefnyddio cymysgedd o laswellt go iawn ac artiffisial.
Er bod Stadiwm y Liberty’n gartref i dîm pêl-droed Abertawe’n ogystal â rhanbarth rygbi’r Gweilch, mae’r cae yn cael ei ganmol yn aml am ei safon uchel.
Bydd Cymru’n herio Awstralia wythnos i yfory yn Stadiwm y Mileniwm, cyn chwarae gartref yn erbyn Ffiji, Seland Newydd a De Affrica hefyd yn ystod penwythnosau mis Tachwedd.