Fe fyddai Llafur yn cael ei chwalu yn yr Alban pe bai Etholiad Cyffredinol yn cael ei gynnal fory, yn ôl pôl piniwn newydd.

Dim ond pedair sedd Albanaidd fyddai gan Lafur, a’r blaid genedlaethol yr SNP yn ennill 54.

Dyma’r pôl piniwn llawn cynta’ i’w gynnal yn yr Alban ers y bleidlais ar annibyniaeth a’r dadlau gwleidyddol sydd wedi digwydd ers hynny.

Ymddiswyddiad

Mae’n atgyfnerthu casgliadau arolygon barn Prydeinig lle mae’r ffigurau llai am yr Alban hefyd wedi dangos symudiad anferth at yr SNP.

Fe gafodd yr arolwg gan gwmni teledu STV a chwmni arolygno IPSOS Mori ei gynnal yn ystod y dyddiau diwetha’ yn union wedi ymddiswyddiad arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban.

Pe bai’r arolwg yn gywir, dim ond un sedd fyddai gan y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr heb yr un o gwbl.

Y canrannau

  • Am y tro cynta’ erioed fe fyddai gan yr SNP fwyafrif o’r bleidlais boblogaidd, gyda 52% – hynny’n cymharu â mymryn dan 20% yn Etholiad 2010.
  • Fe fyddai Llafur yn cwympo i 23% – o 42% bedair blynedd yn ôl.

Y gweddill:

  • Ceidwadwyr – 10%
  • Y Gwyrddion – 6%
  • Democratiaid Rhyddfrydol – 6%
  • UKIP – 2%