James Christopher O'Neal (Llun Cyngor Gwynedd)
Mae cynghorydd sir yng Ngwynedd wedi cael ei gyhuddo yn ffurfiol o flacmêl.

Mae’r cyhuddiad yn erbyn cynghorydd annibynnol ward Marchog yn ninas Bangor, Christopher O’Neal yn ymwneud â digwyddiad yn ardal  Y Rhyl ym mis Rhagfyr y llynedd.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu’r Gogledd fod dyn 36 oed wedi cael ei gyhuddo a’i fod wedi’i ryddhau ar fechnïaeth.

Bydd O’Neal yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Prestatyn ar Dachwedd 28.

Dyw e ddim yn gallu mynd i gyfarfodydd Cyngor Gwynedd ar hyn o bryd ar ôl cael ei wahardd yn dilyn penderfyniad yr Ombwdsman Llywodraeth Leol ynghylch cwyn hollol wahanol.